Cyd-destun polici yng Nghymru

Trosglwyddo Ased

Gellir ymhlygu polisi tuag at drosglwyddo asedau o gyrff cyhoeddus i fudiadau a mentrau cymunedol o gytundeb 2003 o bŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru a  Lloegr i ‘waredu asedau am bris yn is na’r ystyriaeth gorau’. Cyn hynny roedd angen cydsyniad llywodraeth ganolog y DU i gymryd y cam yma, ond yn weithredol byddai llywodraeth leol yn medru cydsynio a bod gwerth y trosglwyddiadau yn cael eu cadw o fewn lefelau penodol.

Yn 2007, daeth y polisi yn eglur pan gynhyrchodd Barry Quirk, Prif Weithredwr Bwrdeistref Llundain Lewisham “Making Assets Work: The Quirk Review” (cliciwch yma i weld copi) yn dilyn cais oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Adnabyddodd yr adolygiad fuddion i grwpiau lleol yn rheoli ac yn berchen asedau, fel modd o rymuso cymunedau ac fel mecanwaith i gefnogi llywodraeth leol i gyflawni ei nodau. Cydnabyddi'r adolygiad hefyd nad oedd trosglwyddiad asedau yn ddi-risg a bod yna rwystrau ariannol, ond nid oedd yna unrhyw rwystrau na ellid eu goresgyn o ran gweithgaredd a fyddai yn cefnogi trosglwyddo ased.

Yn 2008 ymdriniwyd yn benodol gyda phryderon llywodraeth leol ynghylch trosglwyddo ased gyda chyhoeddiad “Managing Risks: A Guide” gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (Cliciwch yma i weld copi). Cynhyrchwyd hwn yn benodol i fynd i’r afael gyda’r holl o’r risgiau posib wrth drosglwyddo asedau o bersbectif awdurdod lleol a mudiadau / mentrau cymunedol fel ei gilydd.

Ar yr un pryd gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad penodol i edrych ar ffyrdd o weithredu'r Quirk Review 2007.  Canlyniad hyn ydoedd partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Loteri Mawr i wneud Cronfa Ased Cymunedol ar gael. Fel ag yr oedd hi yn Lloegr, mae’r prosiectau sydd yn defnyddio’r cyllid yma gan amlaf, ond nid bob tro, yn ymwneud â throsglwyddiad ased, o awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.

Yn Lloegr, roedd cysylltiad clir wedi ei wneud rhwng trosglwyddo a rheoli ased o fewn cyrff cyhoeddus a’r angen am bolisi penodol tuag at drosglwyddo ased i fudiadau a mentrau cymunedol. Gweinyddwyd rhaglen i gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau a chynlluniau peilot am bedair blynedd a golygodd hyn nifer o brosiectau a pholisïau trosglwyddo. Mae’r Uned Trosglwyddo Ased wedi cynhyrchi ganllaw a pholisïau enghreifftiol y gall llywodraeth leol eu mabwysiadau i gefnogi trosglwyddo ased o ganlyniad i’r rhaglen.

Yng Nghymru aethpwyd ati i ymdrin gyda’r gwaith hwn drwy fenter draws llywodraeth - y Rhaglen Effeithlonrwydd a Mentergarwch. Mae un o’i ffrydiau gwaith yn ymwneud a Rheoli Ased Cenedlaethol i wneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’r ystâd gwasanaeth cyhoeddus, sy’n werth sawl biliwn, i integreiddio cyflawni gwasanaeth, gwella hygyrchedd a chyflawni effeithlonrwydd.

Yn sgil y gwaith yma crëwyd protocol ar gyfer y trosglwyddo asedau rhwng cyrff cyhoeddus ond nid yw eto wedi ystyried y polisi trosglwyddo a’r gweithdrefnau i fudiadau cymunedol.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru fodd bynnag wedi adeiladu profiad o hyn drwy’r prosiectau Cronfa Ased Cymunedol.